Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 4 Hydref 2018

Amser: 11.00 - 12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5082


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Jayne Bryant AC

Andrew RT Davies AC

John Griffiths AC

Dai Lloyd AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

Tim Render, Llywodraeth Cymru

Keith Smyton, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Marc Wyn Jones (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd John Griffiths AC i'r cyfarfod fel aelod parhaol o'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i Dawn Bowden AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.

Datganodd Andrew R.T. Davies AC fuddiant fel ffermwr.

 

</AI1>

<AI2>

2       Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Holodd y Pwyllgor Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd.

 

Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n:

•        rhannu â'r Pwyllgor gopi o'i gohebiaeth ddiweddar â Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch y darpariaethau ar gyfer ardoll cig coch ym Mil Amaethyddiaeth y DU;

 

•        rhoi manylion pellach i'r Pwyllgor am y camau a gymerwyd ganddi, a'r rhai y mae'n bwriadu eu cymryd, i gynyddu capasiti ac arbenigedd yn ei hadran i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

 

i.        cadarnhau cyfanswm y staff a recriwtiwyd a'r swyddi gwag sydd eto i'w llenwi, a

 

ii.       cyfanswm y cyllid a ddyrennir o gyllideb ei hadran i dalu am gost staff ychwanegol a'r gost cyfle cysylltiedig; ac

 

•        egluro am ba hyd y datgymhwysir paragraff 6.2 o TAN 1.

 

 

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

</AI3>

<AI4>

3.1   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth y DU

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.

</AI4>

<AI5>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI5>

<AI6>

5       Trafod y sesiwn dystiolaeth lafar

Trafododd y Pwyllgor y drafodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Gofynnodd yr aelodau am y canlynol:

 

Nodyn gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â labelu bwyd, a

 

Nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth Ffrainc sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus mewn cysylltiad â bwyd.

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>